Chwilio Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
- Type: RysetiauCigHawddCoginio gyda’r plantLlysiau dros benDefnyddio llaethPrydau un pot
Gall bron iawn unrhyw beth sy'n agos at ei ddyddiad defnyddio gael ei drawsnewid ar ffurf omled Sbaenaidd. Gallwch gynnwys tatws wedi'u coginio, llysiau wedi'u coginio fel pys, cennin, moron, courgettes, winwns ac ati, y dafell olaf o gig moch a chaws sy'n mynd yn galed o amgylch yr ymylon.
Amser coginio: 10-20 munud - Type: RysetiauCigHawddLlysiau dros benPrydau bwyd i’w rhewiCigNadolig
Dyma bryd o fwyd ar gyfer bod yn greadigol gyda'ch bwyd dros ben. Gallwch eu cael yn boeth neu eu coginio'r noson cynt i’w gael i ginio’n oer yn eich gwaith. I gael y canlyniadau gorau, cadwch eich llysiau dros ben yn yr oergell gyda'ch cig rhost nes bydd eu hangen arnoch.
Amser coginio: 1 awr + - Type: RysetiauLlysieuolCanolraddLlysiau dros benPrydau un pot
Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?
Amser coginio: 1 awr + - Type: RysetiauLlysieuolHeb glwtenCanolraddLlysiau dros ben
Mae torth fel hon yn ffordd flasus o ddefnyddio wyau a llysiau ac mae'n berffaith i'w rhannu.
Amser coginio: 1 awr + - Type: RysetiauLlysieuolHeb gnauCanolraddPrydau bwyd i’w rhewiLlysiau dros ben
Gellir gwneud y rysáit flasus hon gan ddefnyddio unrhyw fath o wreiddlysiau stwnsh sydd dros ben, ac os nad oes gennych unrhyw gennin syfi, ceisiwch ddefnyddio cymysgedd o winwns a chennin wedi'u torri'n fân.
Amser coginio: 30-45 munud - Type: Bwydydd
Dyma fwyd poblogaidd yn y Deyrnas Unedig; mae ciwcymbr yn llawn microfaetholion ac yn gynhwysyn sylfaenol mewn salad a brechdanau.
- Type: Bwydydd
Mae cennin yn ddewis poblogaidd yn y gegin, a gellir eu defnyddio yn lle winwns os bydd arnoch angen defnyddio rhai sydd gennych dros ben. Maen nhw’n rhan o’r teulu aliwm ynghyd â winwns a garlleg, ac maen nhw’n llawn maetholion.
- Type: Bwydydd
Mae llawer o wahanol fathau o letys ar gael, yn cynnwys rhai sydd â dail ystwyth fel letys crwn, a rhai sydd â dail crimp fel letys crensiog.
- Type: Bwydydd
Mae courgettes yn rhan o’r un teulu â chiwcymbr, gwrd a melon, ac maen nhw’n fwyd poblogaidd am fod llawer o ffyrdd o’u defnyddio. Gellir eu defnyddio yn y rhan fwyaf o seigiau sawrus, yn ogystal â rhai seigiau melys.
- Type: Bwydydd
Mae madarch, math o ffwng, yn fwyd poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio mewn llawer o wahanol rysetiau. Mae llawer o wahanol fathau ar gael, yn cynnwys madarch botwm, wystrys y coed, a madarch porcini.