Bwyd dros ben i ginio: ffyrdd iach o arbed bwyd, amser ac arian
Yn aml, gallwn deimlo nad oes digon o oriau mewn diwrnod, a’r peth olaf rydych am feddwl amdano ar ôl coginio swper yw beth i’w roi yn eich pecyn bwyd fory. Y newyddion da yw, drwy fanteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben, gallwch wneud dau bryd o fwyd mewn un ac arbed arian a bwyd ar yr un pryd!
Arbed bwyd, arbed amser, arbed arian!
Mae hyn yn golygu mwy na dim ond taro sleisen o pizza yn eich pecyn bwyd – er bod hynny’n syniad gwych hefyd, wrth gwrs! Mae hyn yn ymwneud â chynllunio ar gyfer cael ychydig o fwyd dros ben. Y meddylfryd yma yw ei bod yn fwy economaidd i goginio sypiau mwy, felly mae arbedion mwy i’w cael drwy goginio ychydig yn ychwanegol amser swper, gyda’r bwriad o gael peth dros ben i’w gael i ginio’r diwrnod wedyn.
Ac mae mantais ychwanegol: pan fyddwch yn coginio sypiau mwy, mae’n haws gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei ddefnyddio tra byddwch chi wrthi – felly rydych chi’n llai tebygol o fod â manion dros ben sy’n anoddach eu defnyddio ar eu pennau eu hunain, fel hanner carton o hufen, un ffiled o gyw iâr, neu hanner bresychen.
Arfogwch eich hun â chynwysyddion ailddefnyddiadwy bach a pharatowch i ymuno â’r chwyldro bwyd dros ben.
Manteisio i’r eithaf ar fwyd dros ben
Dewch inni ddechrau gyda rhai opsiynau sy’n galw am ddim ond ychydig o wario ychwanegol – neu ddim o gwbl – i droi bwyd dros ben yn ginio. Dyma rai opsiynau da ar gyfer troi eich swper yn ginio drannoeth:
- Pasta – mae’n hawdd gwneud swper pasta ar raddfa fwy, fel bod dogn dros ben gennych ar gyfer eich pecyn bwyd fory.
- Bysedd pysgod – coginiwch gwpl yn ychwanegol a’u defnyddio i wneud brechdanau bysedd pysgod y diwrnod wedyn.
- Chilli con carne – mae tsili dros ben yn gweithio’n dda mewn bara tortila meddal wedi’i lapio mewn ffoil.
- Peli cig – mae’r rhain yn dda ar eu pen eu hunain neu mewn brechdanau. Gwnewch ychydig yn ychwanegol a’u rhoi mewn cynhwysydd ailddefnyddiadwy bach gydag ychydig o saws tomato dros ben.
- Fajitas cyw iâr – gwnewch un ychwanegol a’i lapio mewn ffoil yn barod at y diwrnod wedyn.
Wrth gwrs, does dim angen gwneud mwy o fwyd amser swper i gael bwyd dros ben, gallwch hefyd fanteisio ar amser cinio i ddefnyddio unrhyw beth na wnaethoch chi lwyddo i’w orffen, gydag ychydig o gynhwysion ychwanegol os bydd angen. Wedi rhostio cyw iâr, coes cig oen, neu ddarn o gig eidion? Gallwch ychwanegu’r cig dros ben at salad iachus, neu wneud brechdan cig rhost flasus gyda mayonnaise, mwstard neu siytni.
Fel arall, gallech ychwanegu unrhyw gyw iâr dros ben at fara tortila neu fara pitta gydag unrhyw letys, tomatos a shibwns dros ben, gyda mayonnaise, neu dorri’r cig dros ben a llysiau a’i gymysgu â chwscws ynghyd â sbeisys cynhesol i wneud cinio hawdd a chyflym.
Os oes gennych chi letys dros ben ers neithiwr, peidiwch â’i daflu i’r bin! Rhowch ef mewn cynhwysydd bach ailddefnyddiadwy ar ei ben ei hun i’w fwynhau fel saig ar y naill ochr yn eich pecyn bwyd, gan gadw’r dresin ar wahân i osgoi dail soeglyd.
Os oes gennych foronen neu ddwy i’w defnyddio, rhowch gynnig ar ei dorri’n ffyn a’u cynnwys yn eich pecyn bwyd gyda dip hwmws.
Ffrwythau a danteithion melys
Ewch â darn o ffrwyth gyda chi i’r gwaith, neu gallech dorri darnau o wahanol ffrwythau a’u troi’n salad ffrwythau blasus i’w gael yn eich pecyn bwyd.
Os oes gennych fananas sydd wedi gweld dyddiau gwell, gallwch eu trawsnewid yn fara banana a chynnwys sleisen yn eich pecyn bwyd bob dydd – bydd yn para ychydig ddyddiau mewn cynhwysydd aerglos, a gallwch rewi unrhyw ddarnau na wnaethoch eu bwyta ar gyfer rywdro arall.
Cofiwch, gall brecwast fod yn ffynhonnell bwyd dros ben hefyd. Os bydd gennych fwy o grempogau na lwyddoch i’w bwyta ar fore Sul, beth am eu cynnwys fel pwdin yn eich pecyn bwyd ddydd Llun?
Mwynhau bwyd dros ben yn ddiogel
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau eich bwyd dros ben yn ddiogel gan ddilyn y tips yma:
- Oerwch unrhyw fwydydd dros ben yn gyflym, eu gorchuddio a’u storio yn yr oergell ar dymheredd is na 5˚C.
- Dylai bwyd dros ben a gedwir yn yr oergell gael ei fwyta o fewn deuddydd. Reis/seigiau reis o fewn 24 awr. Pan fyddwch yn cyrraedd y gwaith, rhowch eich cinio yn yr oergell nes byddwch yn barod i’w fwyta. Amser cinio, ail dwymwch eich cinio yn y microdon nes bydd yn chwilboeth.
- Gellir bwyta reis yn oer os cafodd ei oeri’n gyflym. Cadwch ef yn yr oergell, a’i fwyta o fewn 24 awr. Wrth aildwymo reis, gwnewch yn siŵr ei fod yn chwilboeth.
- Mae bod yn greadigol a manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben yn ffordd wych o arbed arian, amser a bwyd – ac o gynllunio ymlaen llaw, gallwch arbed mwy fyth drwy goginio mewn swp. Beth am ddefnyddio ein cynllunydd dognau i’ch helpu i gynllunio’r dognau ychwanegol ar gyfer cinio drannoeth?
Test