Skip page header and navigation

Cyri katsu cyw iâr

Cyri katsu cyw iâr

Y syniad y tu ôl i'r pryd hwn yw helpu gyda gwastraff bara, reis a gwreiddlysiau a rhywbeth ar gyfer unrhyw un sy’n hiraethu am eu hoff fwyty cyri katsu (dim enwau!).
Gan Gary Maclean
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Dogn o gyri katsu gyda darnau cyw iâr a reis gwyn

Cynhwysion

Saws cyri katsu

1 winwnsyn wedi'i dorri
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Byddai shibwns neu nionod dodwy yn gweithio'n dda yma.
2 ewin garlleg cyfan, wedi'u plicio
2 moronen, wedi'u torri
2 lwy fwrdd o flawd plaen
1 llwy de o bowdwr cyri Madras
600ml o stoc cyw iâr
2 llwy de o fêl, os oes gennych chi beth
1 llwy fwrdd o saws soi
1 deilen llawryf
½ llwy de o Garam Masala

Cyw iâr crensiog

2 ffiled cyw iâr
Dyma rysáit sy’n gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
300g o hen fara wedi’i falu’n fan neu wedi'i gratio i wneud briwsion bara
100g o flawd plaen
2 wy
20ml o laeth

Reis wedi'i bobi

1 mwg o reis
Mae cymysgedd o unrhyw reis yn eich cwpwrdd yn iawn. Mae mwg goffi rheolaidd yn fesuriad gwych i wneud digon o reis i bedwar o bobl.
1½ mwg o ddŵr
1 ciwb o stoc cyw iâr
Pinsiad o halen

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

  2. I wneud y saws cyri katsu, cynheswch yr olew mewn padell fach ac ychwanegu’r winwnsyn wedi’i dorri a’r garlleg a’i ffrio am 2 funud.

  3. Ychwanegwch y moron a’i ferwi’n araf am 10 munud gyda’r caead ymlaen a’i droi tan ei fod wedi meddalu ac maen nhw wedi dechrau carameleiddio.

  4. Cymysgwch y blawd a’r powdr cyri Madras a’u coginio am funud.

  5. Arllwyswch y stoc i mewn yn araf tan ei fod wedi’i gyfuno.

  6. Ychwanegwch y mêl (os ydych chi’n ei ddefnyddio), y saws soi a’r ddeilen llawryf tan ei fod yn berwi.

  7. Yna gallwch leihau’r gwres a’i fudferwi am 20 munud, fel bod y saws yn tewychu ond bod modd ei arllwys o hyd.

  8. Ychwanegwch y Garam Masala, yna tynnu’r ddeilen llawryf a chymysgu’r saws gyda chymysgydd llaw tan ei fod yn llyfn. Os nad oes gennych gymysgydd mi ddylai fod yn bosib i chi wthio’r llysiau meddal drwy ridyll.

  9. I wneud y cyw iâr crensiog, rhowch y cyw iâr yn fflat ar fwrdd torri a rhoi eich llaw ar ei ben a’i sleisio’n ofalus drwy’r canol gan greu dau ddarn.

  10. I friwsioni’r cyw iâr, bydd angen yr hyn a elwir yn ‘system pané’. Mae hyn yn cynnwys plât neu silff gyda blawd â blas, un gydag wy ac ychydig o laeth, a thrydedd plât gyda briwsion bara.



    Gorchuddiwch y cyw iâr trwy’r blawd yn gyntaf, yna’r wy ac yn olaf y briwsion bara, fel bod y blawd yn glynu wrth y cyw iâr, yr wy yn glynu at y blawd a’r briwsion bara yn glynu wrth yr wy ar gyfer y gorchudd crensiog perffaith.

  11. Ffriwch yn fas tan yn euraidd ac wedi’i goginio drwyddo. Yn dibynnu ar ba mor drwchus yw’r cyw iâr efallai y bydd angen peth amser yn y ffwrn i goginio drwyddo.

  12. I goginio’r reis, rhowch y reis mewn llestr sy’n addas ar gyfer y ffwrn, yna ychwanegu’r dŵr a phinsiad o halen a’r ciwb stoc ac yna rhoi caead sy’n ffitio’n dynn a’i goginio tan ei fod yn berwi.

  13. Unwaith y bydd yn berwi, rhowch ef mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (180°C / ffan 160°C) am 17 i 18 munud.

  14. Tynnwch y llestr yn ofalus o’r ffwrn a chodi’r reis gyda fforc i’w fflwffio a’i weini gyda’r saws cyri katsu.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.