Gnocchi figan syml
Gnocchi figan syml
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Gwnewch yn siŵr nad yw’r tatws stwnsh yn dalpiog ac ychwanegwch flas gyda halen a phupur. Rhowch y stwnsh mewn dysgl gymysgu fawr ac ychwanegu sawl llwy fwrdd o flawd.
Defnyddiwch eich dwylo i gymysgu’r tatws a’r blawd gyda’i gilydd a dal ati i ychwanegu blawd nes bod y cymysgedd yn dod at ei gilydd fel toes. Trowch y toes ar fwrdd â blawd arno a’i dylino’n ysgafn, gan ychwanegu mwy o flawd yn ôl yr angen – fe welwch po fwyaf y gwasgwch y tatws, y mwyaf o leithder fydd yn ymddangos! Unwaith y bydd y toes yn ddigon sych i beidio â glynu wrth y bwrdd, torrwch ef yn bedwar dogn a rholiwch bob un i siâp ‘neidr’ hir.
Defnyddiwch gyllell finiog i dorri’r neidr yn ddarnau byr a’u rhoi ar blât â blawd arno. Os ydyn nhw’n cyffwrdd â’i gilydd, maen nhw’n debygol o lynu at ei gilydd.
Berwch sosban fawr o ddŵr i’r berw ac yna gollwng ychydig o ddarnau gnocchi i’r dŵr – dim gormod, neu efallai y byddant yn clystyru. Byddant yn suddo, ac yna’n codi i’r wyneb pan fyddant wedi’u coginio - dim ond munud neu ddau y mae hyn yn ei gymryd. Tynnwch nhw allan pan fyddan nhw’n arnofio. Os oes angen i chi eu cadw’n gynnes tra byddwch chi’n gorffen coginio’r holl gnocchi, beth am eu taflu mewn ychydig o olew i’w hatal rhag glynu at ei gilydd.
Gweinwch gydag ychydig o saws tomato neu pesto figan, neu ffrio ewin neu ddau o arlleg wedi’i fathru mewn ychydig o olew olewydd da neu fargarîn figan ac addurno’r pryd gyda pherlysiau ffres wedi’u torri.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.