Skip page header and navigation

Nwdls cyw iâr un ddysgl

Nwdls cyw iâr un ddysgl

Swper un ddysgl cyflym i un sy'n flasus ac yn arbed ar olchi llestri!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 1
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Powlen werdd yn cynnwys llawer o nwdls euraidd gyda llysiau wedi’u cymysgu ynddi

Cynhwysion

55g o nwdls reis sydyn
1 ciwb o stoc cyw iâr â llai o halen, wedi’i friwsioni a’i ychwanegu at 250ml o ddŵr berwedig mewn jwg a’i droi
1 brest cyw iâr heb groen, wedi'i dorri'n fân
1 moronen fach, wedi'i sleisio'n denau
Nid oes angen ei phlicio dim ond ei golchi’n dda!
25g o bys wedi'u rhewi
½ pupur coch bach, wedi'i sleisio
1 shibwns, wedi'i rwygo
1 llwy de o flawd corn
2 lwy de o saws soi â llai o halen
¼ llwy de o 5 sbeis Tsieineaidd

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

  2. Rhowch y nwdls mewn dysgl gawl neu fwg mawr sy’n addas i’r ficrodon ac yna arllwyso’r stoc poeth dros y nwdls a’i adael am 3 munud.

  3. Ychwanegwch y cyw iâr, y moron, y pys, y pupur coch a’r shibwns ac yna cymysgu’r blawd corn, y saws soi ysgafn, y 5-sbeis ac 1 llwy fwrdd o ddŵr oer mewn dysgl fach. Arllwyswch y cymysgedd blawd corn dros y nwdls yna cymysgu popeth gyda’i gilydd gan sicrhau bod y llysiau wedi’u dosbarthu’n gyfartal trwy’r ddysgl.

  4. Gorchuddiwch y ddysgl gyda haenen lynu a’i roi yn ficrodon ar Uchel am 2 funud, gan droi hanner ffordd trwy goginio, tan fod y cyw iâr yn chwilboeth. Gadewch i sefyll am 1 munud cyn ei weini.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.