Skip page header and navigation

Selsig, winwns a thatws mewn hambwrdd pobi

Selsig, winwns a thatws mewn hambwrdd pobi

Mae'r pryd hwn yn ddelfrydol ar gyfer swper yn ystod yr wythnos gan mai dim ond deng munud y mae'n ei gymryd i'w baratoi ac mae'n defnyddio un ddysgl yn unig ar gyfer coginio.

Defnyddiwch eich hoff amrywiaeth o selsig a chyfnewidiwch y pannas am datws i gael canlyniad yr un mor flasus.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 40 munud
A dish of baked sausages and potatoes on a table ready to serve

Cynhwysion

Pecyn 454g o selsig
Mae'r rysáit yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer cig yn drylwyr cyn ei goginio.
1 winwnsyn mawr, wedi'i dorri'n lletemau
500g o datws newydd neu datws salad, wedi'u sleisio'n drwchus
Does dim angen eu plicio, dim ond eu golchi’n dda!
2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy fwrdd o fwstard grawn cyflawn
1 llwy fwrdd o ddail teim ffres neu sych
Mae perlysiau sych yn gweithio cystal.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

  2. Cynheswch y ffwrn i 200°C, marc nwy 6.

  3. Trowch bob selsig yn 2 a’u torri i wneud 16 selsig bach.

  4. Rhowch y winwnsyn a’r tatws mewn hambwrdd rhostio mawr, yna’r olew, y mwstard a’r teim ac ychwanegu digon o flas.

  5. Pobwch am 30-35 munud, gan droi hanner ffordd drwodd neu eu bod yn euraidd a’r tatws yn frau.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.