Skip page header and navigation

Briwgig pwmpen cnau menyn

Briwgig pwmpen cnau menyn

Yn Ne Affrica, traddodiad yw dechrau llestr o'r briwgig ffrwythau melys a sur sbeislyd hwn a'i gadw ar y stôf trwy'r gaeaf, gan ychwanegu mwy o gigoedd, llysiau a ffrwythau wrth iddo gael ei fwyta. Yma mae wedi'i drawsnewid yn rysáit pei briwgig anarferol gyda chaws wedi'i gratio ar ei ben.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 8
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Pwnpen Cnau Menyn o'r Popty Araf & Saws Caws Mwg

Cynhwysion

3 llwy fwrdd o olew olewydd
2 pwmpen cnau menyn canolig, wedi'u plicio, heb hadau a'u torri'n ddarnau
Arbedwch y crwyn wedi'u plicio a'u defnyddio i wneud stoc ar gyfer cawl neu stiwiau a’i rewi tan fod ei angen.
1kg o friwgig cig oen, cig eidion neu gig dafad
1 winwnsyn, wedi'i blicio a'i dorri'n fân
Edrychwch yn eich rhewgell am winwnsyn all fod angen i chi ei ddefnyddio.
2 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u malu
2 lwy fwrdd o biwrî tomato
1 llwy fwrdd o bowdr cyri
2 x 400g o domatos tun wedi'u torri'n fân
2 lwy fwrdd o siytni mango
1 can o fricyll cyfan
570ml o laeth
Halen a phupur du wedi'i falu

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

  2. Cynheswch y ffwrn i 190°C (375°F) marc 5, a rhoi 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn dysgl ac ychwanegu’r bwmpen cnau menyn, ac yna ychwanegu blas a’i gymysgu’n dda. Rhowch y cig mewn tun rhostio a’i rostio am 25 - 30 munud, nes ei fod yn frau.

  3. Yn y cyfamser, cynheswch weddill yr olew , mewn caserol mawr a thro-ffrio’r winwns am 5 munud neu tan eu bod yn feddal. Ychwanegwch y briwgig a’i goginio tan ei fod wedi brownio am tua 10 munud a chael gwared ar unrhyw fraster dros ben.

  4. Ychwanegwch y garlleg, y piwrî tomato a’r powdr cyri a’i goginio am 1 munud arall.

  5. Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri, y siytni mango, y bricyll wedi’u draenio a’r llaeth a’u berwi a’u coginio am tua 20 munud, gan ychwanegu dŵr ato os yw’n dechrau mynd yn rhy sych. Ychwanegwch y bwmpen cnau menyn wedi’i rostio a’i flasu ac yna ychwanegu blas cyn ei roi mewn dysgl pei 1.5 litr sy’n addas ar gyfer y ffwrn neu ddysglau llai ar gyfer y rhewgell ac yna gwasgaru caws wedi’i gratio ar ei ben.

  6. Coginiwch am 20-25 munud, tan ei fod yn euraidd a’i weini gyda salad, tatws pob neu lysiau tymhorol.

  7. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Bydd modd ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.